P-06-1226 Dileu'r hyn sy’n rhwystro mynediad i waith cymdeithasol ac annog parch cydradd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ‘Cardiff University Social Work Masters Cohort’, ar ôl casglu cyfanswm o 475 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae polisi presennol Llywodraeth Cymru yn gosod caledi diangen ar ddarpar weithwyr cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu gwahardd rhag cael benthyciad i fyfyrwyr a bwrsariaeth gofal cymdeithasol ar yr un pryd.

Rydym yn galw ar Senedd Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru annog a chefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol o bob cefndir, cael gwared ar rwystrau i'r proffesiwn, a datblygu mwy o barch cydradd rhwng y gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu gwahardd rhag cael benthyciad i fyfyrwyr a bwrsariaeth gofal cymdeithasol ar yr un pryd. Mae hyn yn arwain at ddiffyg o filoedd o bunnoedd heb unrhyw gefnogaeth ar gyfer llety, bwyd, biliau cyfleustodau, car, a chostau byw cyffredinol am dros ddwy flynedd.

Mae hyn yn gosod pwysau aruthrol ar weithlu'r dyfodol ac yn rhwystr i'r proffesiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cydweithwyr yn y GIG gyda grantiau i dalu ffioedd dysgu yn llawn, yn ogystal â chaniatáu mynediad i fwrsariaethau costau byw neu dalu cyflog. Cafodd llawer o fyfyrwyr y GIG y taliad COVID pan gafodd myfyrwyr gwaith cymdeithasol eu heithrio. Mae hynny er gwaetha’r ffaith bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn rheoli miloedd o lwythi achosion ledled Cymru yn ystod y pandemig.

Mae’r diffyg parch cydradd rhwng gwaith cymdeithasol a gofal iechyd yn cael ei gyfleu i’r dim gan y driniaeth wahaniaethol ymhlith myfyrwyr Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyllid uchaf erioed – sef £227m – ar gyfer addysgu a hyfforddi gweithlu'r GIG. Byddai llai na 0.2% o'r swm hwnnw'n unioni’r anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Canol Caerdydd

·         Canol De Cymru